Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes
Dydd Mawrth 14 Hydref 2014
Ystafell Gynadledda 21 Ð Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn bresennol:
Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)
Jeff Cuthbert AC
John Griffiths (Aelod lleyg)
Angela Magny (Gofal Diabetes Roche)
Penny Griffiths (Grŵp Cymorth gan eraill sydd ‰ Diabetes)
Kinsey Jones (Eiriolwr Clinigol)
Julia Platts (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol)
Jason Harding (Diabetes UK Cymru)
Dr Lindsay George (Arweinydd Clinigol, Diabetes, Ysbyty Llandochau)
Robert Koya Rawlinson (Novo Nordisk)
Lesley Jordan (Input)
Ben Everard (Sanofi)
Paul Coker (Eiriolaeth Cleifion Input)
Helen Nicholls (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)
Greg Titley (Aelod Lleyg)
Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)
David Chapman (yn cynrychioli Medtronic)
Ros Meek (Medtronic)
Robert Wright (Aelod lleyg)
Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)
Mirriam Dupree (Swyddfa Jenny Rathbone AC)
Dai Williams (Diabetes UK Cymru)
Ymddiheuriadau
Mohammad Asghar AC
Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd ‰ Diabetes)
C Hugh Thomas (Fferylliaeth Gymunedol Cymru)
David Miller-Jones (Cymdeithas Dermatoleg mewn Gofal Sylfaenol - PCDS)
Yvonne Johns
Jonathan Hudson (Astrazeneca)
Sarah Davies (Canolfan Feddygol Woodlands, Caerdydd)
Pip Ford (Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi)
HoffaiÕr grŵp trawsbleidiol ddiolch iÕr sefydliadau canlynol am eu cymorth:
Cyflwyniadau
Croesawodd Jenny Rathbone AC y rhai a oedd yn bresennol i ddegfed cyfarfod y grŵp yn y pedwerydd Cynulliad. Dosbarthwyd cerdyn i Wendy Gane i ddymuno gwellhad buan iddi.
1. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cytunodd y grŵp ar gywirdeb cofnodion y cyfarfod blaenorol.
Materion yn codi
a)
Cynllun Cyflenwi Bwrdd Iechyd Powys
Rhoddodd Robert Wright wybod iÕr aelodau am
ymateb negyddol cychwynnol y Cynghorau Iechyd Cymuned mor ddiweddar
‰ mis Medi. Fodd bynnag, yn dilyn cyfarfod a drefnwyd gan
Russell George AC, rhwng Dai Williams a Robert, a dau reolwr o
Fwrdd Iechyd Lleol Powys, newidiodd eu safbwynt yn sylweddol a
chytunwyd i adfer y Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer
Diabetes aÕr Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetes. Rhoddodd
Bob wybod iÕr aelodau ei fod wedi cyflwyno deiseb iÕr
Pwyllgor Deisebau heddiw, yn galw ar Fwrdd Iechyd Lleol Powys i
adfer y ddau grŵp. Croesawodd y Grŵp safbwynt diwygiedig
y Bwrdd Iechyd.
2.
Cyflawni ar gyfer Diabetes - Dr Julia Platts;
Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer
Diabetes
Croesawodd Jenny Julia Platts iÕw r™l
newydd ac iÕr cyfarfod. Rhoddodd Julia amlinelliad o
ddatblygiadau diweddar a nododd y blaenoriaethau ar gyfer y
flwyddyn gyntaf. Ar hyn o bryd maeÕr Grwpiau
Gweithredu Cymru Gyfan (AWIG) yn llunio safonau a argymhellir gan
ddefnyddioÕr Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes (CDA) a bydd
ynddynt gamau gweithredu ar gyfer eu hargymell i holl Brif
Weithredwyr y Byrddau Iechyd. Mae pedwar maes allweddol yn y
Cynllun Cyflenwi:
a) Plant a Phobl Ifanc
Sefydlwyd rhwydwaith pediatrig ac mae swydd arweinydd
clinigol a swydd weinyddol wedi cael eu hysbysebu. MaeÕr
safonau sydd ar waith yn Lloegr yn gweithioÕn dda a
ch‰nt eu rhoi ar waith yng Nghymru. Cynhelir adolygiad ym
mis Tachwedd / Rhagfyr a bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu nodi yn
y cynllun gweithredu. Bydd Gofal trosiannol o wasanaethau plant i
wasanaethau oedolion yn flaenoriaeth gan y Cynllun Cyflenwi yn y
dyfodol.
b)
Atal Diabetes
Bydd y ffocws ar adnabod pobl sydd mewn perygl mawr o
ddatblygu diabetes. Bydd system "tynnu sylw" yn helpu
meddygon teulu i nodi cleifion y dylid eu profi, a chynigir
awgrymiadau ynghylch newidiadau mewn ffordd o fyw iddynt er mwyn eu
hatal rhag datblygu Diabetes. Bydd fferyllfeydd hefyd yn sgrinio
cleifion.
c)
Gofal Effeithiol
Canfu adroddiad diwethaf yr Archwiliad
Cenedlaethol Diabetes bod bron i 100% o feddygfeydd meddygon teulu
yng Nghymru wedi cymryd rhan. Dim ond tri phractis a ddewisodd
beidio ‰ chymryd rhan hyd yma, dau oherwydd problemau
meddalwedd nad oedd yn gydnaws, syÕn cael ei gywiro. Gall y
feddalwedd gael ei gwneud yn weddus i arferion unigol practisau, a
chynhyrchu adroddiadau archwilio ar gynnydd ym mhob practis. Bu
oedi o ran penderfyniadau yn ymwneud ‰ chychwyn y gronfa
ddata rheoli cleifion SCI-DC, a fyddaiÕn caniat‡u
gwell dulliau rhannu gwybodaeth a chydweithio rhwng ysbytai a
meddygfeydd meddygon teulu ledled Cymru. Penderfynir ar y ffordd
ymlaen ar ddechrau 2015
d)
Gofal Cleifion Mewnol: Mae hyn wedi cael blaenoriaeth uwch yn dilyn nifer o
adroddiadau proffil uchel yn y cyfryngau. Dechreuwyd ar waith yn
ymwneud ‰ chynlluniau gweithredu ysbytai. Nodwyd angen am
fwy o hyfforddiant i staff ar ymwybyddiaeth o ddiabetes. Mae gwaith
dadansoddi gwraidd y broblem Marwolaethau & Afiachusrwydd
yn cael ei gynnal ledled Cymru a Lloegr, a fydd yn taflu goleuni ar
ofal annigonol. Bydd canfyddiadauÕr dadansoddiad yn llywio
gwaith y Byrddau Iechyd o ran cleifion mewnol yn y dyfodol.
Mae chwech allan o ddeunaw o ysbytai yng Nghymru wedi gweithredu
cynllun Meddyliwch am Glwcos, ac mae cynllun iÕw gyflwyno
yng Nghymru gyfan yn 2015.
e)
Grymuso Cleifion
Bydd pob Bwrdd Iechyd yn cynnig cynllun DAFNE (Addasu
Dosau ar gyfer BwytaÕ n Arferol). Daw hwn yn
lleÕr cynllun DAFYDD (Addasu Dos ar gyfer eich Diet Dyddiol)
gan mai dim ond DAFNE sydd ‰ sylfaen dystiolaeth bendant.
MaeÕr brif gost o gynnig DAFNE yn ymwneud ag amser staff yn
ystod yr hyfforddiant. Y targed yw bod 50% oÕr holl gleifion
sydd newydd gael diagnosis o Ddiabetes math 1 i gwblhauÕr
cwrs DAFNE. Bydd cleifion Diabetes math 2 sydd newydd gael
diagnosis yn cwblhauÕ r cwrs X-PERT. Y targed yw 20% yn y
flwyddyn 1af, 40% yn yr ail flwyddyn a 50% yn y drydedd
flwyddyn.
Rhoddodd Julia wybod iÕr aelodau y bydd
Byrddau Iechyd yn adrodd ddwywaith y flwyddyn ar y cynnydd ar yr
argymhellion hyn, a bydd hiÕn adrodd yn ™l iÕr
Grŵp Trawsbleidiol hwn.
Cododd Lesley y mater o hawl i gael gafael ar stribedi prawf fel
mater o bryder parhaus, oherwydd bod anghysondebau yn swm y
stribedi a ragnodir gan feddygon teulu, gyda rhai dim ond yn
cyflenwi digon ar gyfer profiÕr gwaed am bythefnos. Cytunodd
Julia fod hyn yn achos pryder. Cytunodd i adrodd yn y cyfarfod
nesaf ynghylch y stribedi prawf aÕr broses o
gyflwynoÕr cynllun Meddyliwch am Glwcos.
3.
Mae Grŵp Gweithredu o ran Diabetes Cymru
Gyfan
Rhoddodd Jason wybod iÕr aelodau fod pob
Bwrdd Iechyd yn ymwybodol o flaenoriaethau, ac yn ymchwilio
iÕw rhoi ar waith.
4.
Y wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-grwpiau
Gofal Cleifion Mewnol
Rhoddodd Diabetes UK wybod iÕr aelodau fod
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi datblygu offeryn newydd i
fonitro diabetes mewn cleifion mewnol. Gellir gweld yr offeryn
yn http://www.hiw.org.uk/opendoc/249864
. MaeÕn offeryn cynhwysfawr syÕn
monitro os yw pobl yn cael gofal priodol. Ymhen amser, caiff pob
ysbyty ei arolygu gan ddefnyddioÕr offeryn hwn. Bydd y 2-3
adroddiad cyntaf yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a fydd yn darparu
ffeithiau gwirioneddol, a gellir ei ddefnyddio fel sail ar gyfer
trafodaeth ar unrhyw faterion gan y Grŵp.
Trafododd yr Aelodau sut i symud ymlaen ‰ r is-grŵp
gofal cleifion mewnol gan fod Julia wedi cytuno i adrodd yn
™l ar yr agwedd hon ar waith y Grŵp Gweithredu Cymru
Gyfan iÕr Grŵp Trawsbleidiol. Cytunwyd, er mwyn
osgoi dyblygu gwaith, y byddai Julia yn adrodd iÕr
is-grŵp a byddaiÕr is-grŵp yn adrodd iÕr
Grŵp Trawsbleidiol.
Cytunwyd y byddaiÕn rhaid iÕr
is-grŵp gael ffocws ar gleifion, a thrafododd yr aelodau sut y
gallent gasglu profiadau cleifion. Dywedodd Julia fod yr archwiliad
o gleifion mewnol eisoes wedi casglu profiad cleifion am dair
blynedd, a gellid defnyddioÕr data hyn. Cytunodd Jason y
byddai Diabetes UK yn edrych sut y gallant gasglu profiadau
cleifion.
Pympiau Inswlin
Rhoddodd Dai Williams y wybodaeth ddiweddaraf gan yr
is-grŵp, a nodwyd y camau gweithredu aÕr argymhellion
canlynol:
á Mae Adam Cairns, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Ddiabetes Cymru Gyfan (AWDIG) wedi cytuno y dylai darpariaeth Pympiau Inswlin / CSII fod yn un o dri maes ffocws ar gyfer ail flwyddyn y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Diabetes.
á Bydd yr Arweinydd Clinigol Diabetes newydd, Julia Platts, yn cadeirio gweithgor ar gyfer y Grŵp Cynghori Gwasanaeth Cenedlaethol (NSAG), tra bydd mewn bodolaeth, i flaengynllunio ar gyfer gwaith y Grŵp Gweithredu ar Ddiabetes Cymru Gyfan er mwyn gwella gwasanaethau pympiau yng Nghymru.
á Dylid anelu at gydymffurfiaeth lawn ‰ NICE. IÕr perwyl hwn, mae angen archwiliad newydd, a byddai cofrestr ddiweddar / barhaus yn ddefnyddiol nes y bydd SCI Diabetes yn weithredol.
á Dylem gael gwasanaeth pympiau ar gyfer Cymru gyfan, i fedru rhoi canllawiau iÕr Byrddau Iechyd ac i gydlynuÕr gwaith. Cydnabod ac ymestyn gwaith WEDS o bosibl?
á Angen adolygu nifer y nyrsys arbenigol diabetes a PDSNs, gan eu bod yn ganolog i unrhyw wasanaeth pympiau effeithiol. MaeÕr archwiliad presennol gan Lywodraeth Cymru (y soniodd Chris Dawson amdano yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar 4 Mawrth 2014) eto i gyflwyno ei adroddiad, ac efallai y bydd angen ei ailystyried. Mae hyn ar agendaÕr Grŵp Gweithredu ar Ddiabetes Cymru Gyfan (AWDIG) aÕr Coleg Nyrsio Brenhinol.
á DylaiÕr tri darparwr blaenllaw o bympiau (Medtronic, Roche & Animas / J & J) gael eu cynnwys yn y datrysiadau arfaethedig. MaeÕn werth nodi bod cwmn•au pympiau inswlin ar hyn o bryd yn rhan o agweddau ar ofal cleifion uniongyrchol, fel, cychwyn therapi pwmp inswlin i gleifion ac adolygu cleifion.
á
Mae diffyg sgiliau pympiau inswlin mewn llawer o
dimau diabetes eu hunain. Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn
anfon achosion cymhleth i Ganolfan Arbenigol Lerpwl i gael
gwasanaeth pympiau.
5.
Unrhyw fater arall
Dyddiad y cyfarfod nesaf: Dydd Mawrth 10
Chwefror 2015